Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Ionawr 2023
Amser:
14.30 -
17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13175
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Steffan Evans, Sefydliad Bevan Peter Tutton, StepChange Luke Young, Cyngor ar Bopeth |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
O dan Reol Sefydlog 17.24A gwnaed datganiadau o fuddiant gan Sarah Murphy AS a Jenny Rathbone AS.
2 Dyled ac effaith costau byw cynyddol: sesiwn dystiolaeth un
Clywodd yr
aelodau dystiolaeth gan:
Peter Tutton, StepChange - Pennaeth Polisi, Ymchwil a Materion
Cyhoeddus
Luke Young, Cyngor ar Bopeth - Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Steffan Evans, Sefydliad Bevan - Swyddog Polisi ac Ymchwil
3 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
3.1 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch yr ymchwiliad sbotolau i brofiadau pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder troseddol
3.2 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynghylch Canolfan Menywod Gogledd Cymru
3.3 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch profiadau Menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol
3.4 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chymru Ddiogelach ynghylch profiad Menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol
3.5 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch anghymesuredd hiliol o fewn system cyfiawnder troseddol Cymru
3.6 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft 2023-2024
3.7 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
3.8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
3.9 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
3.10Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o adran 20.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
5 Dyled ac effaith costau byw cynyddol: ystyried y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.
6 Cyllideb Ddrafft 2023-2024: trafod yr adroddiad drafft
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd i’w gwblhau y tu allan i'r Pwyllgor.
7 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus: ystyried ymateb drafft
Trafododd yr Aelodau yr ymateb drafft a chytunwyd i’w gwblhau y tu allan i'r Pwyllgor.
8 Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: adroddiad monitro
Cytunwyd y byddai'r eitem hon yn cael ei ystyried ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.